Mae Derwyddiaeth wedi chwarae rhan hanfodol yn niwylliant y Cymry ers ddechrau'r oes Haearn, thrwy'r choncwest
Rufeinig ac yn ddiwethaf fe welwyd adfywiad drwy weithgareddau Iolo Morgannwg yn yr 18fed Ganrif. Be ddatblygodd oedd Derwyddiaeth go
wahanol i hen dderwyddiaeth oes yr Haearn, gyda un Duw, Duw y Cristnogion.
Mae Derwyddiaeth Paganaidd yn go ddistaw yng Nghymru, yn enwedig mewn cymhariaeth a weddill y byd, mwy na tebyg am fod
Derwyddiaeth yr Eisteddfod a'r Orsedd Genedlaethol yn rhan pwysig ym mywyd y Cymry, yn enwedig Plant, a gydai wyneb
Christnogol/monotheistig, mae'n anodd weithiau gweld yr ystyr tu hwnt ir gwyneb cyhoeddus ar ddangos yng Nghymru'n gyffredinol, drwy'r
Orsedd Genedlaethol a Derwyddon yr Orsedd.
Ond, Mae Derwyddiaeth Phaganaidd a dathliad y tir a'r Tylwyth, a'i fynegiant mewn cyd-destun ysbrydol yn chwyddiannau,
er fod prinder o siaradwyr Cymraeg yn cerdded y llwybr Derwyddig, sydd braidd yn siomedig wrth feddwl na yma oedd dechreuad a chartref
enwocaf yr hen Dderwyddon.
Mae Chymru yn gyfoeth mewn chwedl a fytholeg o'n gorffennol Geltaidd, yr hen lyfrau yn datgan hudoliaeth a dirgelwch,
a rhain yn mynegi hanes llawn hudoliaeth, gyda Derwyddiaeth yn ran hanfodol o'r hanes hyn.
Mae'r mynyddoedd, y dyffrynnoedd, ein hafonydd a'r coed yn dal ynddynt dirgelwch ein diwylliant hudol, a'r gwynt yn
sibrwd doethineb, rhyfeddod ac Awen ein tir, mor ac awyr. Er Y gwaetha, a marwolaeth yr hen Dderwyddon, rydym yma o hyd, yn wahanol,
ond yma o hyd, fel yng ngeiriau Dafydd Iwan yn ei gan boblogaidd...
Chwythed y gwynt o'r Dwyrain,
Rhued y storm o'r mor,
Hollted y mellt yr wybren,
A gwaedded y daran encôr,
Llifed Dagrau'r gwangalon,
A llyfed y Taeog y llawr,
Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas,
Ry'n ni'n barod am doriad y wawr,
Ry'n ni yma o hyd,
Ry'n ni yma o hyd,
Er gwaetha pawb a phopeth,
Er gwaetha pawb a phopeth,
Ry'n ni yma o hyd!
|
Yn y Tudalennau a ddilyni'r gwelir chysylltiadau i grwpiau, neu orseddi/celli drwy Gymru, gyda ysgrifau,
barddoniaeth a llawer mwy o ddiddordeb i Dderwyddon Cymraeg.
Kris Hughes
Cydgysylltydd iaith Gymraeg,
Rhwydwaith Y Derwyddon